Dau yn cael anafiadau cefn ar ôl damweiniau ceir yn y de ddwyrain

Cafodd dynes wyth mis yn feichiog ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau posib i'w chefn wedi damwain yng Nghasnewydd.

Derbyniodd y gwasanaethau brys alwad wedi'r gwrthdrawiad rhwng dau gar am 7.11pm nos Fawrth.

Digwyddodd y ddamwain ar Ffordd Commercial yn ardal Y Pîl.

Yn y cyfamser aed ag un person i'r ysbyty gydag anafiadau posib i'r cefn wedi gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar yr A470 ger Pontypridd.

Cafodd Gwasanaeth y Tân eu galw i'w safle am 7.55pm nos Fawrth rhwng Glan Bad a Glyntaf.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.