BBC Cymru Fyw

Casnewydd yn ymestyn eu mantais

Published
image copyrightOther

Casnewydd 1-0 Ebbsfleet

Mae Casnewydd wedi llwyddo i aros ar frig y gynghrair, diolch i gôl gan Ismael Yakubu.

Wedi dechrau sigledig, Casnewydd gafodd y gorau o'r chwarae am fwyafrif y gêm.

Wedi hanner awr y daeth unig gôl y gêm. Yakubu beniodd i gefn y rhwyd o groesiad Andy Sandell.

Cyn hynny daeth ergyd i dîm Justin Edinburgh pan gafodd Danny Crow anaf olygodd ei fod yn gorfod gadael y maes.

Ond fe ddaeth Jefferson Louis ymlaen yn ei le gan greu argraff.

Er hynny, fe gafodd yr ymwelwyr well hwyl ar bethau wedi'r egwyl, ac roedd rhaid i Lenny Pidgeley fod yn effro fwy nag unwaith yn y gôl i Gasnewydd.

Daeth hwb pellach i Gasnewydd gan i dri o'r timau eraill oedd ym mhump uchaf y tabl cyn gemau nos Fawrth - Forest Green, Luton a Dartford - i gyd golli.

Wrecsam yw'r pumed, ac fe fyddan nhw'n chwarae nos Fercher.