Cwmni cludiant yn ehangu drwy brynu mwy o gerbydau

Delsol Image copyright Delsol

Fe fydd cwmni cludiant Delsol yn buddsoddi £278,000 mewn 15 fan newydd a dau gerbyd arall.

Cwmni Delsol, sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon a Glannau Dyfrdwy, ydi un o gwmnïau cludiant mwya'r gogledd.

Mae'r cwmni yn arbenigol mewn dosbarthu parseli a darnau o bren.

Dywed y cwmni bod y buddsoddiad yn cael ei wneud er mwyn ateb y galw.

Mae gan y cwmni 56 o gerbydau erbyn hyn.

Cwmni o Fethesda

Ychwanegodd llefarydd bod 85 o bobl yn gweithio i'r cwmni, y nifer mwya erioed.

Mae'r cwmni yn un o chwech yn unig yn y gogledd i gyrraedd rhestr o gwmnïau sy'n tyfu yng Nghymru.

Dyma'r ail waith i'r cwmni fod ar y rhestr o 50.

Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1999 ym Methesda gan Tony Parry a Simon Walker.

Maen nhw'n gobeithio adeiladu ar eu llwyddiant y llynedd pan gafwyd trosiant oedd dros £5 miliwn.

"Rydym yn falch iawn o fod yn derbyn cerbydau newydd a fydd yn caniatáu i ni adeiladu a darparu mwy o wasanaeth a hynny yn effeithiol," meddai Mr Parry, un o gyfarwyddwyr y cwmni.

"Gallwn gystadlu yn erbyn enwau mawr y byd dosbarthu drwy gynnig y gwasanaeth gorau yn ogystal â buddsoddi yn y gymuned leol."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.