Gwasanaeth ar gyfer April
- Cyhoeddwyd
Roedd gorymdaith drwy ganol Machynlleth cyn y gwasanaeth arbennig yn yr eglwys ddydd Sul ar gyfer April Jones.
Roedd cannoedd yn gorymdeithio drwy'r dref cyn y gwasanaeth i ddangos eu cefnogaeth i April Jones a'i theulu
Roedd nifer fawr o'r bobl yn gwisgo pinc, hoff liw April
Roedd y gwasanaeth yn Eglwys San Pedr Machynlleth
Roedd o'n wasanaeth arbennig gyda thaflen gwasanaeth arbennig gydag enw April arno
Roedd tu mewn yr eglwys yn llawn, nifer yn sefyll a channoedd mwy y tu allan
Y Parchedig Kathleen Rogers yw offeiriad y plwy
Esgob Bangor, yr Esgob Andrew John, yn arwain y gwasanaeth
Roedd cannoedd y tu allan i'r eglwys gyda'r fam yma yn gafael yn dynn yn ei mherch
Mae nifer fawr o bobl, gan gynnwys yr heddlu, yn gwisgo rhubanau pinc yn y dref