M4: Tagfeydd difrifol yn y de ddwyrain
- Cyhoeddwyd
Mae oedi o hyd at awr ar yr M4 wedi gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Cyffordd 26 (A4051 Ffordd Malpas) a Chyffordd 27 (B4591 Highcross).
Mae tair lôn o'r draffordd ar gau i gyfeiriad y dwyrain wrth i'r gwasanaethau ddelio gyda'r digwyddiad, ac mae tagfeydd yn ymestyn hyd at Gyffordd 23a (Gwasanaethau Magwyr) yn y cyfamser.
Dywedodd yr Asiantaeth Briffyrdd bod oedi o hyd at hanner awr ar y ffordd i gyfeiriad y gorllewin hefyd wrth i yrwyr arafu i wylio'r trafferthion ar yr ochr arall.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol