Marwolaeth plismon yn ddirgelwch

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun, Dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth y plismon

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i farwolaeth plismon yng Nglyn Ebwy

Cafodd corff y dyn 32 oed ei ddarganfod gan barafeddygon yn ei gartre yn Lilian Grove ddydd Mercher.

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod y plismon, cyn ei farwolaeth, wedi ei atal o'i waith.

Roedd e ar fechniaeth yr heddlu tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mae'r achos wedi ei gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu.

Mae'r Comisiwn wedi cadarnhau eu bod yn disgwyl gwybodaeth bellach gan Heddlu Gwent cyn penderfynu ar y camau nesa.

Dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth.

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Jeff Farrar: "Mae hon yn sefyllfa drasig ac mae ein meddyliau gyda theulu'r swyddog".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol