Arddangosfa Artes Mundi yn agor yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Mae gwaith saith artist, gan gynnwys Miriam Bäckström o Sweden, yn cael eu harddangos fel rhan o gystadleuaeth Artes Mundi.
Disgrifiad o’r llun,
Bydd gwaith gan Sheela Gowda o India hefyd i'w weld fel rhan o'r gystadleuaeth, sydd â gwobr o £40,000 i'r enillydd.
Disgrifiad o’r llun,
Hon yw'r bumed flwyddyn i Artes Mundi gael ei chynnal. Ymhlith yr artistiaid ar y rhestr fer yw Tania Bruguera o Cuba.
Disgrifiad o’r llun,
Phil Collins yw'r unig artist o Brydain ar y rhestr fer.
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd waith Teresa Margolles o Fecsico ei ddewis allan o'r 576 o artistiaid unigol o dros 90 o wledydd a enwebwyd yn wreiddiol.
Disgrifiad o’r llun,
Bydd gwaith Darius Mikšys o Lithuania yn rhan o'r arddangosfa yn yn yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol o dan do Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Disgrifiad o’r llun,
Apolonija Šušteršič o Slofenia yw seithfed artist yr arddangosfa sydd yn cychwyn ar 6 Hydref 2012 ac yn gorffen ar Ionawr 13 2013. Bydd enillydd y gystadleuaeth yn cael ei ddewis ar 29 Tachwedd.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol