Tair menyw yn yr ysbyty oherwydd damwain ger Pont Abraham

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun, Roedd y ddamwain tua 12.30pm

Mae tair menyw yn yr ysbyty wedi damwain ddifrifol ar draffordd yr M4 tua 12.30pm.

Am gyfnod roedd tagfeydd hir o droad Yr Hendy ger Pontarddulais i gylchdro Pont Abraham yn Sir Gaerfyrddin.

Dau gerbyd oedd wedi taro yn erbyn ei gilydd ar y cylchdro ger y gwasanaethau ar Gyffordd 49.

Cafodd yr heddlu ac ambiwlans awyr eu galw.