'Sioc' am gwymp mewn archwiliadau
- Cyhoeddwyd
Mae ysgrifennydd cymdeithas pysgotwyr yn dweud ei fod wedi cael sioc wrth glywed bod gostyngiad mawr wedi bod mewn archwiliadau ar gychod mewn ardaloedd cadwraeth o gwmpas Cymru.
Mae ffigyrau a gafwyd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod 37 o gychod wedi cael eu harchwilio mewn patrolau gan Lywodraeth Cymru ers mis Ebrill, o gymharu gyda dros 500 yn ystod pob un o'r ddwy flynedd ddiwethaf.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru y cyfrifoldeb am warchod pysgodfeydd oddi ar yr hen Bwyllgorau Pysgodfeydd y Môr ym mis Ebrill 2010.
Dangosodd y cais Rhyddid Gwybodaeth - a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Biwmares ar Ynys Môn - bod 574 o archwiliadau ar gychod yn yr ardaloedd cadwraeth arbennig yn 2010-11 a 569 o archwiliadau yn 2011-12.
Saith rhybudd
Cafodd saith rhybudd ysgrifenedig eu cyflwyno wedi erlyniadau yn 2010-2011, tra yn y flwyddyn ddilynol roedd tri erlyniad a thri ymchwiliad ar y gweill.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod tri o'r 37 cwch a archwiliwyd hyd yn hyn eleni yn parhau o dan ymchwiliad.
Dangosodd y cais hefyd bod gostyngiad mawr wedi bod yn yr amser y mae'r cychod ar batrôl - o 809.25 awr yn 2010-2011 a 684.5 awr yn 2011-2012 i 70 awr hyd yn hyn eleni.
Roedd 44% o'r archwiliadau gyda'r nos.
Ond dywedodd Siôn Williams, ysgrifennydd Cymdeithas Pysgotwyr Cewyll Llŷn, fod y nifer o archwiliadau hyd yn hyn eleni yn peri 'sioc' ac yn "hurt".
"Mae nifer o gwynion wedi bod am nifer isel yr archwiliadau - mae'n rhywbeth rydym yn codi yn gyson," meddai Mr Williams.
"Dwi allan yno bob dydd o'r flwyddyn a'r tro diwethaf weles i batrôl oedd Chwefror 2011.
"Dyw'r ffigyrau hyn ddim yn ddigon da".
Bydd Llywodraeth Cymru'n creu tri neu bedwar o Barthau Cadwraeth Morol erbyn 2014, o restr o 10 safle posib.
Cafodd y rhestr ei llunio gan arbenigwyr cadwraethol.
Ond mae pysgotwyr yng Ngwynedd yn anhapus y byddai'r cynlluniau'n eu gwahardd o ardaloedd ble maen nhw'n honni y gallen nhw bysgota'n gynaliadwy.