JJB: 43 o swyddi'n diflannu

Mae 43 o swyddi'n diflannu wrth i siopau JJB gau yng Nghymru.

Bydd 25 o weithwyr yn colli eu swyddi yng Nghaerdydd, saith yng Nghwmbrân, saith yng Nghaerfyrddin, a phedwar yn Hwlffordd.

Yn y cyfamser, mae siop Llandudno, lle mae 17 yn gweithio, a'r Rhyl, lle mae 11, yn cael eu trosglwyddo i Sports Direct.

Ar y cyfan mae Sports Direct wedi prynu 20 o siopau yn y pedair gwlad a diogelu 55 o swyddi.

Ond mae 133 o siopau wedi eu cau ddydd Llun a 2,200 o swyddi wedi diflannu.

Y gweinyddwyr yw KPMG.