Amazon i greu mil o swyddi dros dro yn Abertawe

Parsel Amazon Image copyright PA
Image caption Agorodd canolfan Amazon yn Abertawe yn 2008 ac mae'n cyflogi dros 1,000 o bobol

Mae cwmni Amazon am greu 1,000 o swyddi dros dro yn eu canolfan ddosbarthu yn Abertawe er mwyn ateb y galw cyn y Nadolig.

Bydd y cwmni siopa ar-lein yn cyflogi mwy na 10,000 o bobl dros dro yn eu canolfannau dosbarthu ar hyd y Deyrnas Unedig yn ystod yr wythnosau nesaf.

Agorodd canolfan Amazon yn Abertawe yn 2008 ac mae'n cyflogi dros 1,000 o bobol.

Mae canolfan ddiweddaraf y cwmni wedi cael ei hagor yn Hemel Hempstead, ac yn cyflogi 600 o bobol.

"Fe archebodd cwsmeriaid dair miliwn o eitemau yn ystod cyfnod o 24 awr yn ystod ein diwrnod prysuraf cyn y Nadolig y llynedd, " meddai Catherine McDermott, cyfarwyddwr gweithredol Amazon.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawi nifer o wynebau newydd i'n canolfannau yn ystod yr wythnosau nesaf yn ogystal â chyflogi gweithwyr dros dro sy'n ymuno â ni bob blwyddyn yn ystod cyfnod y Nadolig.

Ym mis Medi eleni cyhoeddodd y cwmni eu bod am greu 2,000 o swyddi newydd mewn tair canolfan ddosbarthu newydd yn y DU.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.