Amheuon am ddiwedd cyfnod yn Llanelli?

Uwchgynghrair Cymru Image copyright Not Specified

Roedd 'na ansicrwydd a fyddi'r gêm rhwng Llanelli a'r Bala yn cael ei chwarae ddydd Sadwrn oherwydd adroddiadau nad oedd chwaraewyr Llanelli wedi eu talu.

Llanelli 1-4 Bala

Wedi cyfarfod bore Sadwrn penderfynodd y tîm fynd allan i wynebu'r ymwelwyr o'r gogledd.

Er bod y tîm cartref wedi colli o 1-4 mae'n bosib mai nid dyna fydd yn cael y prif sylw.

Roedd rhai o chwaraewyr Llanelli yn eu dagrau yn gadael y cae a'r rheolwr Andy Legg yn gorfod eu cysuro.

Gwrthododd Legg a siarad efo'r wasg wedi'r chwiban olaf gan gynnal trafodaethau ar y cae gan godi cwestiynau am ddyfodol y clwb a neu'r rheolwr.

Ar y cae sgoriodd Mark Connolly a Kenny Lunt yn yr hanner cyntaf i'r ymwelwyr cyn i Ian Sheridan a Lewis Codling gael dwy arall yn yr ail hanner.

Cafodd Martin Rose unig gôl Llanelli bum munud cyn diwedd y gêm.

Roedd Y Bala i lawr i 10 dyn am yr hanner awr olaf wedi i Stephen Brown weld ei ail gerdyn melyn o'r gêm.

Airbus 5-1 Aberystwyth

Cafodd Steve Abbott dair gôl i'r tîm cartref wrth iddyn nhw guro Aberystwyth.

Daeth ei gôl gyntaf wedi 13 munud.

Bu'n rhaid aros tan yr ail hanner i Wayne Riley ganfod y rhwyd wedi 48 munud.

Toc wedi awr o chwarae y daeth dwy gôl i Abbott o fewn tri munud.

Jordan Follows gafodd gôl gysur i Aberystwyth wedi 83 munud cyn i Ryan Wade selio buddugoliaeth tîm y Maes Awyr ddau funud o'r diwedd.

Caerfyrddin 0-1 Bangor

Daeth unig gôl y gêm wedi dau funud wrth i Chris Simm guro'r gôl-geidwad Steve Cann.

Mae'r Dinasyddion yn parhau i bwyso ar y Seintiau Newydd sydd ar frig y tabl.

Pwynt o wahaniaeth sydd rhyngddyn nhw gyda Phrestatyn rhyngddyn nhw, ar yr un pwyntiau a'r Seintiau.

Y Seintiau 5-0 Port Talbot

Roedd gan Alex Darlington le i ddathlu ar ôl sgorio tair o goliau'r Seintiau Newydd ddydd Sadwrn.

Roedd y gyntaf wedi pum munud.

Cic o'r smotyn oedd ei ail wedi 26 munud ac fe gafodd ei drydedd bedwar munud cyn yr egwyl.

Roedd Chris Seargeant wedi sicrhau'r drydedd gôl i'r Seintiau wedi 39 munud cyn i Michael Wilde gael y bumed wedi 61 munud.

Bu'n rhaid i'r ymwelwyr chwarae gyda 10 dyn am fwyafrif o'r gêm ar ôl i Paul Keedle gael cerdyn coch wedi 23 munud.

Lido Afan 2-3 Y Drenewydd

Mark Jones o Lido Afan wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Drenewydd bum munud cyn diwedd y gêm ar ôl iddo rwydo i'w gôl ei hun.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen naw munud i mewn i'r ail hanner gydag ergyd Steve Blenkinsop.

Ond fe wnaeth Lido Afan daro'n ôl o fewn munud gyda gôl Keiron Howard.

Llwyddodd yr ymwelwyr gyda chic o'r smotyn o fewn tri munud.

Daeth y tîm cartref yn ôl am yr eildro gyda gôl i Paul Evans.

Trefn gemau a chanlyniadau Uwchgynghrair Cymru - Tymor 2012/13
ABR AFA AIR BAL BAN CAR CCN LLA DRE PTT PRT YSN
Aberystwyth Hyd.5 Rhag.15 1-1 0-0 Hyd.27 Tach.24 0-2 Rhag.26 0-5 Ion.5 Hyd.19
Lido Afan Rhag.21 Hyd.13 1-0 Tach.24 2-1 Rhag.1 Ion.19 2-3 Rhag.26 Hyd.27 1-3
Airbus 5-1 Ion.5 1-0 2-3 1-2 Rhag.26 Hyd.7 Tach.30 Tach.24 Hyd.19 Hyd.26
Bala Tach.3 Tach.18 0-2 Rhag.22 3-0 Ion.19 Rhag.15 4-4 Hyd.14 1-2 Ion.1
Bangor 7-1 4-1 Tach.16 Hyd.5 Rhag 15 2-1 Hyd.13 Tach.2 Ion.19 Ion.1 Rhag.1
Caerfyrddin 2-0 1-1 Tach.3 Rhag.1 0-1 Hyd.13 Rhag.26 Ion.19 Rhag.21 Tach.17 0-0
Cei Connah 1-2 6-2 Ion.1 Hyd.19 Hyd.26 Ion.5 3-1 Tach.17 2-0 Rhag.14 Hyd.6
Llanelli Tach.30 Hyd.19 Rhag.23 1-4 Ion.5 Ion.29 Tach.11 0-3 Hyd.26 2-2 Tach.17
Drenewydd Ion.1 Rhag.15 1-7 Hyd.27 3-2 Hyd.20 1-3 Tach.24 1-1 Hyd.6 Ion.6
Port Talbot Tach.17 Ion.1 4-4 Ion.5 Hyd.20 Hyd.5 Tach.3 1-2 1-0 Medi 22 Rhag.15
Prestatyn Hyd.13 4-2 Ion.19 Tach.24 Rhag.26 7-1 4-1 Tach.3 Rhag.22 1-1 1-0
Seintiau Ion.19 Tach.3 1-0 Rhag.26 3-0 Tach.24 Rhag.22 0-0 Hyd.13 5-0 4-1

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.