Casnewydd 0-0 Grimsby

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other

Casnewydd 0-0 Grimsby

Colli cyfle i ddychwelyd i frig y gynghrair wnaeth Casnewydd wedi gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Grimsby.

Fe wnaeth cic rydd o bell gan Andy Sandell brofi gallu James McKeown yn y gôl i'r ymwelwyr cyn i Danny Crow weld ei ymgais yn cael ei glirio ar y llinell.

Parhau i bwyso wnaeth Casnewydd yn yr ail hanner ac fe wnaeth yr eilydd, Ben Swallow, fygwrth yn erbyn tîm cyndyn Grimsby.

Ychydig o waith oedd gan gôl-geidwad Casnewydd, Lenny Pidgeley, i'w wneud cyn gwadu cyfle i Joe Colbeck yn yr ail hanner.

Mae'r canlyniad yn golygu nad ydi Grimsby wedi colli mewn 10 gêm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol