Stoke 2-0 Abertawe

Stoke 2-0 Abertawe
Fe wnaeth Abertawe golli eu trydedd gêm yn olynol wrth i Stoke fwynhau buddugoliaeth gartref.
Wedi 12 munud llwyddodd Peter Crouch i roi Stoke ar y blaen wrth benio'r bêl o gic cornel Glen Wheelan.
Dyma oedd ail gic gornel y tîm cartref a Crouch yn dod o unlle ac yn rhydd yn y cwrt i guro Michel Vorm .
Wedi 36 munud fe wnaeth Crouch ddyblu mantais y tîm cartref a dangos ei fod gystal ymosodwyr.
Cafodd ei ergyd wreiddiol ei harbed gan Vorm cyn iddi adlamu a Crouch yn ymateb gyflyma' i ganfod cefn y rhwyd.
Ail hanner gwell
Roedd 'na gwestiynau am amddiffyn Abertawe yn yr hanner cyntaf.
Ond roedd eu perfformiad yn well yn yr ail hanner.
Er bod pêl-droed Abertawe yn daclus doedd ar gyfnodau yn yr ail hanner roedd y bas olaf yn esgeulus.
Mae mis mêl y rheolwr Michael Laudrup yn sicr ar ben ond er nad ydi hi'n argyfwng, gyda'r tîm yn yr 11fed safle yn tabl, fe fyddai buddugoliaeth yn rhoi hwb sylweddol.
Roedd y canlyniad yma yn adlais o'r un sgôr ag a gafwyd y tymor diwethaf.
Bydd Yr Elyrch yn gobeithio am dri phwynt yn erbyn Reading yn y Liberty y penwythnos nesaf.
TABL UWCHGYNGHRAIR | |||
---|---|---|---|
Gemau | Gwahaniaeth Goliau | Pwyntiau | |
1. Chelsea | 6 | 8 | 16 |
2. Man Utd | 5 | 6 | 13 |
3. Everton | 6 | 6 | 12 |
4. Fulham | 6 | 5 | 10 |
5. Man City | 6 | 3 | 10 |
11. ABERTAWE | 6 | 1 | 7 |