Gweithiwr ffatri creision wedi ei gyhuddo o losgi bwriadol

Ffatri Real Crisps, Crymlyn
Image caption Roedd 75% o ffatri Real Crisps eisoes yn wenfflam pan gyrhaeddodd y frigâd dân

Mae gweithiwr yn y ddalfa ar ôl bod yn y llys ar gyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Cafodd Colin Goulding, 30 oed, ei gyhuddo wedi'r tân yn ffatri Real Crisps yng Nghrymlyn yn Sir Caerffili. Roedd yn gweithio yn y ffatri.

Roedd 115 o bobl yn gweithio yn y ffatri a chafodd dros 75% o'r adeilad ei ddifrodi.

Mae 'na ddifrod gwerth dros £6 miliwn.

Roedd Mr Goulding yn ymddangos o flaen Llys y Goron Casnewydd drwy gyswllt fideo.

Cafodd yr achos ei ohirio tan Dachwedd 23.

Mae cwmni creision wedi dweud bod diswyddiadau'n anorfod ar ôl tân yn y ffatri'r wythnos diwethaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.