Port Talbot yn trechu Aberystwyth ar giciau o'r smotyn

Dwy gêm yn unig gafodd eu chwarae yng nghystadleuaeth Cwpan Cynghrair Cymru nos Fawrth.

Cafodd chwech o gemau eu gohirio oherwydd y tywydd.

Ond fe deithiodd Aberystwyth i wynebu Port Talbot.

Digon anodd fydd y daith yn ôl i'r canolbarth ar ôl i Aberystwyth golli o giciau o'r smotyn.

Bedwar munud cyn diwedd y gêm fe rwydodd gôl-geidwad Aberystwyth, James Wood, i'w rwyd ei hun i sicrhau gêm gyfartal wedi'r 90 munud o 2-2.

Roedd Dylan Blain wedi rhoi'r tîm cartref ar y blaen wedi 43 munud.

Ciciau o'r smotyn

Ond yn yr ail hanner fe wnaeth yr ymwelwyr daro'n ôl wrth i Wyn Thomas sgorio wedi 65 munud a Glyndwr Hughes yn rhoi Aber ar y blaen wedi 80 munud.

Ond wedi amser ychwanegol doedd 'na ddim gôl arall a bu'n rhaid mynd am giciau o'r smotyn.

Port Talbot oedd yn fuddugol o 5-4.

Y gêm arall gafodd ei chwarae oedd rhwng Y Rhyl a Chei Connah.

Aeth Cei Connah ar y blaen wedi 27 munud gyda gôl Rhys Healey.

Daeth ail gôl Cei Connah gan Jordan Beck wedi 56 munud cyn i Healey selio'r fuddugoliaeth wedi 67 munud.

Ond cafodd y tîm cartref gôl gysur ddau funud yn ddiweddarach wrth i Steve Lewis sgorio.

Canlyniadau:

Port Talbot 2-2 Aberystwyth (5-4 ar giciau o'r smotyn)

Y Rhyl 1-3 Cei Connah

Y gemau â ohiriwyd:

Bala v Bangor

Bryntirion v Caerfyrddin

Hwlffordd v Llanelli

Penrhyncoch v Airbus

Prestatyn v Y Seintiau Newydd

Y Drenewydd v Lido Afan