Buddugoliaeth i Wrecsam yn erbyn Barrow

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other

Wrecsam 3-0 Barrow

Llwyddodd Wrecsam i aros yn y trydydd safle yn Uwchgynghrair Blue Square yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus ar y Cae Ras yn erbyn Barrow.

Mae'r Dreigiau hefyd yn agosáu at Gasnewydd, sydd ar y brig, gyda thri phwynt yn unig rhyngddyn nhw.

Jay Harris gafodd gôl agoriadol y Dreigiau wedi 18 munud, ergyd drawiadol o 35 llath.

Roedd Harris a Danny Wright yn agos at ddyblu'r fantais yn yr hanner cyntaf ac fe gafodd Adam Boyes gyfle gorau'r ymwelwyr cyn yr egwyl i sgorio.

Bu'n rhaid aros tan y 71 munud i weld yr ail gôl gan Andy Bishop cyn i Robert Ogleby selio'r fuddugoliaeth wedi 83 munud.

Bydd Wrecsam yn teithio i Nuneaton ddydd Sadwrn.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol