Treulio anerobig: Buddsoddiad o £3m
- Cyhoeddwyd

Mae uned ynni gwyrdd ddadleuol yn cael ei hadeiladu ym Mhowys wedi brwydr hir rhwng teulu o ffermwyr ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae GP Biotec yn cael ei redeg gan Paul a Gary Jones, a'u rhieni Charles a Janet.
Eisoes mae'r busnes fferm teuluol yn Nhalgarth wedi buddsoddi £3m mewn cyfleuster treulio anerobig i droi gwastraff yn ynni.
Bydd y safle treulio anerobig yn cael ei adeiladu ar eu fferm yn Nhalgarth wedi iddyn nhw gael arian oddi wrth Fanc Clydesdale.
'Amrywiaethu'
Mae hyn yn dilyn brwydr gyfreithiol ynghylch y safle treulio anaerobig a orffennodd pan gollodd y Parc Cenedlaethol her gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn 2010.
Bydd yr uned yn cael ei bwydo gan wastraff ac indrawn o ladd-dy ym Merthyr Tudful i greu ynni i bweru'r fferm 600 erw a bydd unrhyw ynni dros ben yn cael ei werthu i'r Grid Cenedlaethol.
Dywedodd Paul Jones fod y teulu, sydd eisoes yn arbenigo mewn amaethu âr a ffermio cig eidion, yn hapus iawn eu bod wedi diogelu'r cyllid ar gyfer y cynllun.
"Rydym wedi ystyried amrywiaethu ers amser, felly mae'n gyfnod cynhyrfus inni weld y gwaith yn dwyn ffrwyth," ychwanegodd.
"Rydym wedi derbyn gwastraff o'r lladd-dy ers naw mlynedd ac mae datblygu'r uned hon yn gyfle gwych i greu mwy o ynni."
Yn ôl Mr Jones, fe ddylai'r cais cynllunio fod wedi costio £10,000 i'r teulu ond fe gynyddodd i dros£150,000 yn dilyn yr anghydfod cyfreithiol.
Cyflwynodd y teulu gais cynllunio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer y cynllun treulio anaerobig ym mis Medi 2007.
Her gyfreithiol
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo flwyddyn yn ddiweddarach ond cafodd y caniatâd cynllunio ei dynnu'n ôl yn 2009.
Apeliodd y teulu yn erbyn y penderfyniad hwnnw a dyfarnodd Arolygydd Cynllunio Llywodraeth Cymru o blaid y teulu yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus.
Ond fe heriodd yr awdurdod y dyfarniad, gan ddweud nad oedd penderfyniad yr arolygwr wedi "egluro'r ffordd y cafodd y polisi cynllunio ei gyflwyno".
Cyflwynodd yr awdurdod her gyfreithiol yn yr Uchel Lys yn 2010 ond unwaith eto dyfarnwyd o blaid y teulu.
Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth: "Rydym wedi penderfynu rhoi trwydded amgylcheddol i weithredu treuliwr anerobig i greu ynni yn Nhalgarth gan ein bod yn fodlon na fydd yr adnodd yn peri risg sylweddol i iechyd y trigolion lleol nac i'r amgylchedd."
Straeon perthnasol
- 17 Tachwedd 2010
- 21 Mawrth 2012
- 20 Medi 2010