Rhybudd am dywydd garw

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn annog pobl i fod yn wyliadwrus gan fod disgwyl glaw trwm iawn yng Nghymru ddydd Sul.
Dywed y rhagolygon y gallai hyd at 40mm o law ddisgyn yn ne Cymru, gyda 50mm yn bosib yn lleol mewn rhai mannau, a gwyntoedd cryfion hefyd.
Dros yr wythnos nesaf bydd y tywydd stormus yn lledu ar draws gweddill Cymru, gan olygu llifogydd posib ddydd Llun a dydd Mawrth.
Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Rhian Haf: Rydym yn disgwyl i wasgedd isel ddatblygu a lledu o'r de yn ystod y dydd.
"Dyma ddaw â thywydd gwlyb a gwyntog i rannau o'r de ddydd Sul. Ar hyn o bryd does dim sicrwydd pa mor bell i'r gogledd fydd hyn yn lledu - mae'n bosib y bydd hi'n ddiwrnod sych ar Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
"Ond fe fydd hi'n wlyb iawn yn y de, ac yn wyntog iawn hefyd."
Ychwanegodd Asiantaeth yr Amgylchedd y gallai'r tywydd arwain at lifogydd oherwydd rhwystrau mewn draeniau ac afonydd a ffrydiau bach yn gorlifo.
Bydd amodau gyrru hefyd yn anodd yn y de wrth i'r galw aros ar wyneb y ffyrdd.
Dywed yr Asiantaeth y dylai pobl wrando ar y rhagolygon ar y cyfryngau yn gyson gan y gallai'r tywydd newid yn gyflym, neu fe all pobl fynd ar wefan yr Asiantaeth i gael y manylion diweddaraf.