Archfarchnad yn Ystalyfera'n creu 200 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Bydd yr archfarchnad ar hen safle ffatri Dewhirst
Mae disgwyl i archfarchnad Asda, sy'n agor ym mis Tachwedd, greu hyd at 200 o swyddi newydd.
Bydd yr archfarchnad ar hen safle ffatri Dewhirst yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe.
"Hwn fydd y buddsoddiad mwya' yn yr ardal ers i'r ffatri gau fwy na 10 mlynedd yn ôl," meddai llefarydd.
Bydd yr archfarchnad yn 3,000 o fetrau sgwâr.
Dywedodd y cynghorydd sir, Alun Llewelyn: "Mae hwn yn fuddsoddiad mawr ac mae croeso mawr iddo fe.
"Rydyn ni'n sôn am hyd at 200 o swyddi ac mae gwir eu hangen nhw mewn ardal fel hon.
"Hyd yn hyn mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn y swyddi."
Yn wreiddiol, roedd un o weithfeydd haearn mwya'r byd ar y safle.
Straeon perthnasol
- 16 Medi 2012
- 14 Medi 2012
- 14 Awst 2012