Gweddïau i'r glowyr
- Cyhoeddwyd

Mae gweddïau'n cael eu dweud mewn capeli ac eglwysi yng Nghymru er cof am y pedwar dyn a fu farw yng nglofa'r Gleision yng Nghwm Tawe.
Bu farw David Powell, 50 oed, Charles Breslin, 62 oed, Philip Hill, 44 oed a Garry Jenkins, 39 oed, yn y drychineb yng Nghilybebyll ger Pontardawe ar Fedi 15, 2011.
Dywedodd y parchedig Peter Lewis o blwyf Cwm Nedd fod pobl yn cofio am y teuluoedd sy'n yn dal i ddioddef.
"O ran y rhai wnaeth oroesi - a'r teuluoedd - fe fyddant yn dymuno na fydda'n nhw'n gorfod cofio am unrhyw beth heddiw."
Bu farw'r dynion ar ôl i ddŵr lifo i'r pwll.
Mae Heddlu'r De wedi cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad ac wedi anfon y dystiolaeth ymlaen i Wasanaeth Erlyn y Goron.
Ddoe dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David Jones fod ei "feddyliau, gweddïau a chydymdeimlad dwfn" gyda theuluoedd y dynion fu farw.
Roedd Prif Weinidog Carwyn Jones eisoes wedi rhoi teyrnged i'r dynion fu farw.
Dywedodd y Prif Weinidog: "Byddaf i'n cofio'r hyn a ddigwyddodd am byth.
"Gallwn ond dychmygu pa mor echrydus oedd profiad ofnadwy'r teuluoedd wrth aros am newyddion am y dynion fu farw.
Ychwanegodd Mr Jones: "Fe wnaeth y digwyddiad gyffwrdd â chalonnau pawb, nid dim ond yng Nghymru ond ar draws y wlad.
Mae dyn 55 oed a gafodd ei arestio ar Hydref 18 ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Mae dros £1 miliwn wedi ei gasglu ar gyfer teuluoedd y pedwar glöwr fu farw.
Straeon perthnasol
- 14 Medi 2012
- 3 Medi 2012
- 16 Tachwedd 2011
- 4 Hydref 2011
- 18 Medi 2011
- 17 Medi 2011