Dau gwmni awyrennau yn uno?
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni BAE Systems - cwmni awyrennau amddiffyn mwyaf Ewrop - wedi cyhoeddi eu bod yn trafod uno â chwmni EADS.
EADS yw perchnogion cwmni Airbus, y mae eu ffatri'n cyflogi 6,500 ym Mrychdyn, Sir y Fflint a chwmni Cassidian sy'n cyflogi 1,000 mewn ffatri yng Nghasnewydd.
Byddai 40% o'r cwmni unedig yn eiddo i gyfranddalwyr BAE a 60% yn eiddo i gyfranddalwyr EADS.
Dywedodd llefarydd ar ran BAE: "Byddai'r uno'n creu grŵp awyrofod, diogelwch ac amddiffyn o safon fydeang gyda chanolfannau ragoriaeth yn Ffrainc, Yr Almaen, Sbaen, y DU a'r Unol Daleithiau."
Cydweithio
Oherwydd sibrydion am uno posib fe gododd gwerth cyfranddaliadau BAE o 11% ddydd Mercher cyn iddyn nhw gyhoeddi datganiad i'r gyfnewidfa stoc.
Mae hanes hir o gydweithio rhwng y ddau gwmni ac maen nhw'n bartneriaid ar sawl menter, gan gynnwys awyren yr Eurofighter.
Yn eu datganiad dywedodd y ddau gwmni eu bod yn credu y byddai uno er lles cwsmeriaid a chyfranddalwyr ac y byddai'n arbed costau ac yn creu cyfleoedd busnes newydd.
Fe fydd yn rhaid i fyrddau'r ddau gwmni gymeradwyo'r uno ac fe fyddai hefyd angen cymeradwyaeth lywodraethol.
Doedd dim yn y datganiad yn dweud beth fyddai effaith unrhyw uno ar weithlu'r cwmnïau yng Nghymru ond daeth croeso i'r cyhoeddiad gan Fforwm Awyrofod Cymru.
Straeon perthnasol
- 28 Awst 2012
- 13 Hydref 2011
- 8 Mai 2012
- 10 Ionawr 2012