Menyw o Bowys i herio'r ddeddf sgwatio
- Cyhoeddwyd

Mae menyw sydd wedi sgwatio mewn tŷ ym Mhowys ers 2001 yn bwriadu herio'r ddeddf newydd sy'n gwneud hynny'n drosedd, gan honni fod y ddeddf yn groes i'w hawliau dynol.
Mae Irene Gardiner, 49 oed, wedi magu teulu yn y tŷ 500 oed ger Llanidloes.
Ers Medi 1, mae sgwatio mewn tŷ yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn drosedd.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder na fyddan nhw'n caniatáu sgwatio o gwbwl.
Carchar neu ddirwy
Ond mae Ms Gardiner, sy'n fam i bedwar o blant, yn bwriadu mynd â'i hachos i'r Uchel Lys wrth i gwmni o gyfreithwyr o Lundain frwydro'r achos fel achos prawf yn erbyn yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Y llynedd fe geisiodd Ms Gardiner hawlio meddiant cyfreithiol o'r tŷ drwy'r llysoedd, ond bu'n aflwyddiannus gyda'i chais, ac mae'n bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.
Mae hi wedi cael gorchymyn i adael yr adeilad.
Bu farw perchennog y tŷ ond dywed y person sy'n gweithredu'r ewyllys ei fod am i Ms Gardiner i adael.
Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y gall sgwatwyr wynebu chwe mis o garchar, neu ddirwy o £5,000 neu'r ddau.
Dechreuodd Ms Gardiner sgwatio pan oedd yn 14 oed. Dywedodd bod ei bwthyn, sydd heb drydan na chyflenwad dŵr, wedi bod â sgwatwyr yn byw ynddo ers 30 mlynedd.
"Roeddwn i wedi bod yn Sbaen a Portiwgal ac fe ges i wahoddiad i barti pen-blwydd 50 oed ffrind yn Llanidloes," meddai Ms Gardiner.
"Roeddwn i wedi bod yn symud o le i le ar y pryd ac roedd fy mhlant yn fach. Roedd y bobl oedd yn byw yn y bwthyn yn dweud eu bod ar fin gadael felly fe symudais i mewn ac yno ydw i fyth."
Ychwanegodd ei bod wedi talu treth cyngor ar yr eiddo ac erioed wedi hawlio budd-dal tai, ac na fyddai'n medru fforddio byw mewn cartref confensiynol.
"Mae'r ddeddf yn ddianghenraid ac mae'n erlid pobl dlawd," meddai.
"Fy newis i yw byw yn y modd yma, ac rydw i wedi cadw'r tŷ yn fyw gan wneud gwaith cynnal a chadw yn barhaus."
'Chwarae'r sustem'
Dywedodd cwmni cyfreithwyr Leigh Day and Co y byddai erlyn Ms Gardiner yn mynd yn groes i'w hawl i gael bywyd teuluol o dan Adran 8 o Gonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol.
Ond mynnodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod sgwatwyr wedi bod yn "chwarae'r sustem gyfreithiol y rhy hir ac wedi achosi poen meddwl di-ben-draw i berchnogion tai".
Ychwanegodd: "Bydd y drosedd newydd hon yn sicrhau y gall yr heddlu ac asiantaethau eraill gymryd camau pendant i amddiffyn perchnogion tai yn erbyn sgwatwyr."
Roedd Aelod Seneddol lleol Ms Gardiner, y Ceidwadwr Glyn Davies, yn dweud ei fod yn cytuno gyda'r ddeddfwriaeth newydd.
"Ni ddylai pobl fod yn gallu cerdded i mew i eiddo pobl eraill," meddai.
"Dydw i ddim yn nabod Ms Gardiner na'i hamgylchiadau, ond os yw hi'n herio egwyddor y ddeddfwriaeth yna dydw i ddim yn cytuno gyda hi."