Gweinidog yn gobeithio dod i gytundeb gyda CBAC

Disgyblion yn sefyll arholiadau Image copyright PA
Image caption Mae Leighton Andrews yn galw am adolygiad i ganlyniadau TGAU Saesneg

Mae Gweinidog Addysg Cymru'n dweud ei fod yn disgwyl dod i gytundeb hefo bwrdd arholi CBAC ynglŷn ag ailraddio papurau TGAU Saesneg Iaith cyn diwedd dydd Mawrth.

Daw hyn yn dilyn ffrae bod myfyrwyr wedi derbyn graddau is na'r disgwyl pan gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi fis diwethaf.

Ddydd Llun fe alwodd Leighton Andrews ar y bwrdd arholi i ailedrych ar y graddau, wedi honiadau fod y system farcio yn annheg.

Dywedodd wrth BBC Cymru fore dydd Mawrth y byddai'n rhoi 'amser rhesymol' i CBAC ymateb i'w gais ond y byddai'n eu gorfodi i weithredu petai angen.

Dywedodd CBAC eu bod yn awyddus i gynnal rhagor o drafodaethau ar y mater.

Roedd Leighton Andrews wedi galw am arolwg o'r sefyllfa - penderfyniad a groesawyd gan undebau athrawon.

Yn ôl Mr Andrews, roedd yr arolwg wedi ei berswadio fod rhai cannoedd o fyfyrwyr wedi cael cam.

Mae penderfyniad Mr Andrews yn gwrthgyferbynnu â'r sefyllfa yn Lloegr, lle mae'r Gweinidog Addysg yno wedi gwrthod ymyrryd.

Undebau

Nawr mae disgwyl y bydd rhai cannoedd o fyfyrwyr yn derbyn graddau uwch yng Nghymru.

Dywed undebau ATL (Cymdeithas Athrawon a Darlithwyr ) a'r NAHT (Undeb y Prifathrawon) eu bod yn croesawu'r penderfyniad.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Garry Owen fu'n holi Llefarydd Addysg Plaid Cymru, Simon Thomas

Fe wnaeth Mr Andrews gyhoeddi ei benderfyniad mewn datganiad ysgrifenedig yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd: "Ar ôl ystyried yn ofalus, mae'r adroddiad yn fy arwain i'r casgliad fod angen ymateb ar frys i'r anghyfiawnder mae rhai cannoedd o fyfyrwyr wedi dioddef.

".... rwyf heddiw wedi gofyn i Gydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) i ail raddio TGAU Saesneg yn unol ag argymhellion yr adroddiad. "

Mae yna gais hefyd wedi ei wneud i Ofqual, y corff sy'n arolygu papurau yn Lloegr, i gymryd camau tebyg i fyfyrwyr sydd wedi eistedd arholiad CBAC yn Lloegr.

Eleni bu gostyngiad yn nifer y disgyblion wnaeth lwyddo i ennill A*-C TGAU Saesneg yng Nghymru, o 61.3% yn 2011 i 57.4%.

Gorfodi?

Doedd CBAC ddim yn cadarnhau nac yn gwadu eu bod yn fodlon ail-raddio'r papurau arholiad, ond petai nhw'n gwrthod cais Mr Andrews, mae gan y Gweinidog Addysg yr hawl i'w gorfodi i weithredu.

Mae'r bwrdd yn darparu arholiadau yng Nghymru a Lloegr a dywedon nhw fod Ofqual a Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd ar nifer o faterion rheoleiddio yn ymwneud ag arholiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran CBAC:

"Er enghraifft, yn 2012 roedd y ddau reoleiddiwr ar y cyd wedi mynnu ein bod ni'n gwneud ein dyfarniadau TGAU Saesneg Iaith yn fwy llym ar gyfer gradd C nag oeddem ni wedi awgrymu, trwy ofyn i ni newid ein ffiniau gradd.

"Gan fod y rheoleiddwyr wedi cyd-weithio hyd yn hyn ar yr holl faterion sy'n ymwneud â dyfarniadau TGAU Saesneg Iaith CBAC, mae'n gadarnhaol bod datganiad y Gweinidog yn awgrymu y bydd trafodaethau gydag Ofqual "yn parhau" ar ganlyniadau Saesneg Iaith CBAC.

"Edrychwn ymlaen at drafod ymhellach ar frys gyda'r ddau reoleiddiwr er mwyn bod yn glir am y cyfeiriad y dylem ei gymryd yn awr."

Addasrwydd y system

Wrth ymateb i gyhoeddiad y gweinidog, dywedodd Iestyn Davies ar ran y Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru:

"Bydd trafodaethau am ail-farcio papurau arholiad yn newyddion da i fyfyrwyr siomedig, ond rhaid i hyn beidio tynnu'r sylw oddi wrth y mater sylfaenol, sef pa mor addas yw'r system gymwysterau yn ei ffurf bresennol i Gymru.

"Rydym yn ategu ein galwad ar Lywodraeth Cymru, drwy ei hadolygiad o gymwysterau i bobl 14-19 oed, i sicrhau bod cymwysterau yng Nghymru yn arfogi pobl ifanc Cymru ar gyfer y farchnad gyflogaeth, i gwrdd â gofynion cyflogwyr Cymru ac i gynyddu'r awydd i gystadlu yn economi Cymru."

Roedd y Ceidwadwyr yng Nghymru yn llawer mwy beirniadol, a dywedodd eu llefarydd ar addysg yng Nghymru, Angela Burns AC:

"Mae'r Gweinidog Addysg yn parhau i syfrdanu gyda'i helfa barhaus am benawdau.

"Rwy'n poeni bod yr ymyrraeth yma - sy'n groes i'r sefyllfa yn Lloegr - wedi cael ei wneud am resymau gwleidyddol yn unig.

"Er bod rhaid i les y disgyblion ddod yn gyntaf bob tro, rwy'n cwestiynu cymhelliad y gweinidog yn y cyhoeddiad yma heddiw."

Straeon perthnasol