Galw am ganolwyntio ar yr economi yn lle datganoli

Cheryl Gillan
Image caption Cheryl Gillan

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â cheisio cael rhagor o bwerau ond yn hytrach i gydweithio gyda Llywodraeth San Steffan i gryfhau'r economi.

Dywedodd Mrs Gillan wrth BBC Cymru: "Fe fyddwn i yn oedi cyn cael rhagor o ddatganoli."

Yr wythnos diwethaf cafodd David Jones, AS Gorllewin Clwyd - cyn ddirprwy Mrs Gillan - ei ddyrchafu i swydd Ysgrifennydd Cymru.

"Rydym angen tîm sy'n mynd i geisio cael y ddwy lywodraeth yn cydweithio er mwyn sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled," meddai Mrs Gillan.

"Mae angen hwb mawr ar economi Cymru, ac er mwyn i hynny ddigwydd mae'n rhaid i'r ddwy lywodraeth weithio gyda'i gilydd.

"Ddylai hi ddim bod yn fater o Lywodraeth Cymru yn barhaol yn gofyn am fwy o bwerau a Llywodraeth San Steffan yn dweud na."

Dywed Mrs Gillan y dylai Llywodraeth Cymru ddod i'r arfer o ddefnyddio pwerau sydd eisoes wedi eu datganoli.

"Byddwn i ddim am weld mwy o bwerau am beth amser," meddai.

"Mae angen rhoi blaenoriaeth i gyfrifoldeb ariannol."

Mae comisiwn a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth San Steffan yn ystyried dyfodol datganoli a'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn cael eu hariannu.

Mae'r comisiwn yn ystyried y posibilrwydd o roi rhai pwerau trethu i Lywodraeth Cymru.

Straeon perthnasol