Anafiadau wedi damwain cwch yn Sir Benfro

Un o hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru
Image caption Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o Abertawe yn rhan o'r ymdrech achub

Mae dau o bobl yn cael triniaeth am anafiadau wedi i'w cwch cyflym daro ton oddi ar arfordir Sir Benfro.

Roedd pedwar o ddynion o Ddinas Powys yn teithio o Angle i Benrhyn y Santes Ann pan darodd eu cwch 37 troedfedd (11m) yn erbyn tonnau tua 10:20am ddydd Sul.

Cafodd un dyn 33 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd gydag anafiadau posib i'w gefn.

Credir fod dyn 45 oed wedi torri ei ddwy goes a chafodd ei gludo mewn hofrenydd i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Cafodd y ddau ddyn arall sylw meddygol ar ôl cyrraedd Aberdaugleddau ond doedd dim angen triniaeth arnynt.

Dywedodd y grŵp wrth aelodau o Wylwyr y Glannau Dale eu bod yn dod o Ddinas Powys a'u bod ar eu ffordd yn ôl i Glwb Hwylio Caerdydd.

Meddai rheolwr gwylwyr y glannau yn yr ardal, Andrew Hodgson: "Roedd y tywydd yn dirywio wrth i'r dydd fynd yn ei flaen.

"Mae'r cwch yn gallu ymdopi gyda'r math yma o dywydd ond mae'n bosib mai achos o anlwc oedd e."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.