Diweddglo lliwgar i'r Gemau Paralympaidd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun, Roedd y seremoni liwgar nos Sul yn dod ag 11 diwrnod o gystadlu yn Llundain i ben

Wrth i'r Gemau Paralympaidd ddod i ben yn Llundain dros y penwythnos, mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi rhoi teyrnged i'r "cryfder ac ymroddiad goruwchddynol" a ddangoswyd gan athletwyr o Gymru yn y Gemau.

Dywedodd fod athletwyr fel y seiclwr Mark Colbourne wedi bod yn ganolog i ymdrech nodedig tîm Paralympaidd Prydain i ennill medalau.

Cipiodd y cystadleuwyr o Gymru 14 o fedalau - yr un nifer ag yn Beijing bedair blynedd yn ôl.

Roedd hynny'n cynnwys tair medal aur.

Bydd dathliad arbennig yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Gwener i nodi llwyddiannau cystadleuwyr o Gymru yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.

Mae dathliad tebyg yn cael ei gynnal ar strydoedd Llundain ddydd Llun.

Bu Mr Jones yn siarad cyn seremoni gloi'r Gemau Paralympaidd nos Sul.

'Gorau erioed'

Cafodd y seremoni, dathliad o wyliau hynafol Prydain, ei arwain gan y grŵp Coldplay a throsglwyddwyd yr awenau i'r gemau nesaf yn Rio de Janeiro yn 2016.

Roedd yn ddiweddglo i'r hyn mae'r trefnwyr yn ei ddisgrifio fel "y Gemau Paralympaidd gorau erioed."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun, Y seiclwr Mark Colbourne, 42, o Dredegar, sicrhaodd fedal gynta' Prydain yn y Gemau Paralympaidd

Dywedodd Mr Jones: "Gyda'r Gemau Paralympaidd yma, mae Cymru wedi profi unwaith eto ein bod yn wir yn genedl ar gyfer chwaraeon anabl.

"Mae cystadleuwyr o Gymru wedi bod yn ganolog i lwyddiannau tîm Paralympaidd Prydain - yn gwneud cyfraniad hanfodol i'r ymdrech wych i ennill medalau.

"Mae'n athletwyr Paralympaidd wedi dangos cryfder ac ymroddiad goruwchddynol i ddod yn athletwyr o safon bydeang a dod ymlaen i'r llwyfan chwaraeon gorau sy'n bodoli. Mae'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni yn ysbrydoliaeth i ni gyd."

Medalau

Mark Colbourne, 42, o Dredegar, enillodd fedal gynta' Prydain yn y Gemau Paralympaidd, gan sicrhau un aur a dwy fedal arian.

Enillodd Aled Davies, 21, o Ben-y-bont yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, fedal aur yn y gystadleuaeth taflu disgen F42 a'r efydd yn y gystadleuaeth taflu pwysau F42/44.

Roedd Josie Pearson, 26, o'r Gelli Gandryll, fedal aur yn rownd derfynol taflu'r ddisgen F51-F53

Mae blwch post wedi cael ei baentio yn aur yn Abertawe i nodi llwyddiant y pencampwr nofio Paralympaidd Ellie Simmonds, 17, sy'n byw yn y ddinas.

Fe symudodd i Abertawe gyda'i mam pan yn 11 oed fel ei bod yn gallu hyfforddi gyda Billy Pye ym mhwll nofio 50-metr y ddinas.

Llwyddodd Simmonds i gipio dwy fedal aur - yn y ras 200m unigol gymysg (SM6) a'r dull rhydd S6 400m - ynghyd ag arian yn y ras S6 dros 100 metr dull rhydd.

Straeon perthnasol