Madigan yn diffodd tân y Dreigiau

Ian Madigan
Image caption Ian Madigan: 18 o bwyntiau

Pro12: Leinster 45-25 Dreigiau

Cyfrannodd Ian Madigan 18 o bwyntiau wrth i Leinster drechu'r Dreigiau.

Roedd y Cymry'n anelu at eu buddugoliaeth gynta' yn Iwerddon ers 2008 ac roedd cic gosb Prydie yn ddechrau addawol.

Ond ar yr egwyl roedd Leinster ar y blaen o 26-13.

Ar ddechrau'r ail hanner creodd Noel Reid gais Conway cyn i Madigan drosi i'r Gwyddelod ond tarodd y Dreigiau'n ôl pan sgoriodd Jones gais wedi iddo ryng-gipio.

Aeth prop y Dreigiau Nathan Williams i'r gell gosb ac elwodd y Gwyddelod wrth i Jennings a Carr sgorio ceisiadau o fewn cyfnod byr.

Pwyso

Yn hwyr yn yr ail hanner roedd y Cymry'n pwyso'n ofer am fod amddiffyn y tîm cartre'n gadarn.

Yn ystod yr oriau ychwanegol torrodd Macken o'i hanner ei hun a selio'r fuddugoliaeth.

Leinster: Isa Nacewa, Andrew Conway, Brendan Macken, Noel Reid, Fionn Carr, Ian Madigan, John Cooney; Jack McGrath, Sean Cronin, Jamie Hagan, Leo Cullen (capten), Quinn Roux, Ben Marshall, Shane Jennings, Leo Auva'a

Eilyddion: Tom Sexton yn lle Cronin 61 munud, Heinke van der Merwe yn lle McGrath 51, Martin Moore yn lle Hagan 67, Devin Toner yn lle Roux 61, Jordi Murphy yn lle Jennings 61, Luke McGrath yn lle Cooney 72, Jordan Coghlan yn lle Auva'a 72, Darren Hudson yn lle Madigan 75

Dreigiau: Dan Evans, Will Harries, Pat Leach, Andy Tuilagi, Tom Prydie, Steffan Jones; Jonathan Evans; Nathan Williams, Sam Parry, Nathan Buck, Ian Nimmo, Adam Jones, Hywel Stoddart, Jevon Groves (capten), Toby Faletau

Eilyddion: Hugh Gustafson yn lle Parry 51 munud, Aaron Coundley yn lle Williams 60, Tim Ryan yn lle Buck 72, Lewis Evans yn lle Stoddart 54, Tom Brown yn lle A Jones 67, Liam Davies yn lle J Evans 72, Ashley Smith yn lle Tuilagi 74, Hallam Amos yn lle S Jones 65.

Dyfarnwr: Marius Mitrea.