BBC Cymru Fyw

Chwalu gobeithion y Gweilch

Published
image captionPaul Marshall o Ulster sgoriodd y cais hwyr

Pro12: Gweilch 13-16 Ulster

Cais hwyr Paul Marshall chwalodd obeithion y Gweilch yn Stadiwm y Liberty.

Cafodd John Afoa ei atal o fewn trwch blewyn i'r llinell a llwyddodd y mewnwr Marshall i ddeifio drosodd.

Trosodd Paddy Jackson, gan ychwanegu at ddwy gic gosb flaenorol.

Roedd y Gweilch ar y blaen ar ôl i'r asgellwr Hanno Dirksen's sgorio'n wych wedi 24 o funudau. Roedd Matthew Morgan wedei cicio wyth o bwyntiau.

Er bod y ddwy ochr yn dangos addewid, yn aml roedd trafod gwallus yn sbwylio sawl ymosodiad.

Trobwynt

Daeth y gêm yn fyw pan gydiodd Dirksen yn y bêl, chwalu amddiffyn bregus, rhoi hwp i gefnwr Ulster, Jared Payne, a gwibio dros y llinell.

Yn anffodus, ni lwyddodd y Gweilch i adeiladu ar hyn gan fod gormod o gamgymeriadau.

Trobwynt y gêm oedd penderfyniad hyfforddwr Ulster, Mark Anscombe, i ddefnyddio eilyddion.

Yn gynta, pan gyrhaeddodd cyn brop Seland Newydd Afoa a phrop Iwerddon Tom Court cafodd sgrym y Gweilch ei gwthio'n ol. Yn ail gosododd y rheng ôl Stephen Ferris ei stamp ar y gêm oherwydd ei daclo ffyrnig.

Chafodd y Cymry ddim cyfle i frwydro'n ôl.