Lluniau'n adrodd hanes hen long yn Y Rhyl

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Mae arddangosfa'n datgelu mwy am hanes llong ddrylliedig sydd yn gorwedd yn harbwr Y Rhyl. Cafodd y City of Ottawa ei hadeiladu yn Quebec yn 1860 a'i gadael yn harbwr Y Rhyl wedi ei hanner datgymalu ganrif yn ôl.
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd artist lleol, Judith Samuel, grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn ymchwilio a phaentio'r llong ar gyfer arddangosfa sydd yn Llyfrgell Y Rhyl tan 22 Medi. Mae hi'n bwriadu cyhoeddi llyfr am y llong a hwyliodd o amgylch y byd am 36 mlynedd, yn cario pren a glo yn bennaf.
Disgrifiad o’r llun,
Mae map gan yr artist yn dangos taith y llong yn 1883-5 i Dde America, Sri Lanka, Awstralia, Mauritius a Barbados cyn dychwelyd adref.
Disgrifiad o’r llun,
Darganfu'r artist lawer o wybodaeth am y dynion a hwyliodd ar y llong. Gan nad oes dim ffotograffau ohonynt ar gael paentiodd Ms Samuel rai o'r dynion sydd yn hwylio o harbwr Y Rhyl heddiw. Dyma lun o John Wilcocks, stiward y llong rhwng 1864 a 1882 wedi ei seilio ar John Povah, capten y Rose heddiw.
Disgrifiad o’r llun,
Yn 1906 gwerthwyd y llong i Robert Horton and Co, cwmni yn Y Rhyl, am ei phren a'i metalau. Roeddent hefyd yn prynu llongau haearn a dur fel y Fearless sydd yn y llun yma yn 1905.
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r llun yma gan Ms Samuels yn dangos y llong yn cael ei llusgo i'w angorle olaf yn harbwr Y Rhyl. Ysbrydolwyd y llun gan waith gan William Turner, "The Fighting Temeraire Tugged to Her Last Berth to be Broken Up".

Straeon perthnasol

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol