Enwi ysgol newydd ar ôl y bardd a'r awdur T Llew Jones
- Published
Mae ysgol newydd ar gost o £5 miliwn yng Ngheredigion wedi ei henwi ar ôl Brenin Llên Plant Cymru.
Fe agorodd Ysgol T Llew Jones ym Mrynhoffnant ger Llandysul wedi i bedair ysgol lai gau.
Roedd Mr Jones o bentre' Pontgarreg gerllaw a hefyd yn gyn-brifathro ysgol.
Cyfarnnodd yr awdur, fu farw yn 93 oed ym mis Ionawr 2009, yn helaeth at lenyddiaeth plant - ysgrifennodd dros 50 o lyfrau, 35 ar gyfer plant, yn ystod gyrfa o dros 50 mlynedd.
Defnydd lleol
Mae'r ysgol yn gwasanaethu'r ardal wedi i ysgolion Blaenporth, Glynarthen, Rhydlewis a Phontgarreg gau.
Mae 'na lwyfan, offer goleuo a sain ar gyfer cynyrchiadau theatrig yn y neuadd ac mae 'na offer technoleg gwybodaeth ac ardal ar gyfer cyfarfodydd.
"Mae'r adnoddau sydd yn yr ysgol yn arbennig, yn enwedig y ddarpariaeth yn y neuadd," meddai'r Cyngorydd Hag Harris, aelod cabinet y cyngor â chyfrifoldeb am addysg.
"Dwi'n siŵr y bydd y gymuned ehangach yn defnyddio'r ysgol a'r adnoddau sydd ar gael."
Roedd Mr Jones yn "gyfathrebwr heb ei ail" ac yn defnyddio cymeriadau chwedlonol a llefydd lleol ar gyfer ei straeon.
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Hydref 2009
- Published
- 23 Ionawr 2009
- Published
- 16 Ionawr 2009
- Published
- 9 Hydref 2009
- Published
- 5 Mawrth 2009
- Published
- 11 Hydref 2005