Raspberry Pi yn symud i Gymru o China

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Cyfrifiadur Raspberry Pi - sy'n ceisio ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn rhaglennu cyfrifiaduron

Mae cwmni cyfrifiaduron poblogaidd Raspberry Pi yn symud y gwaith cynhyrchu o China o Gymru.

Cafodd y cyfrifiadur bach (maint cerdyn credyd) sy'n costio £16 ac sydd â'r nod o ennyn diddordeb pobl ifanc mewn rhaglennu cyfrifiaduron ei lansio'n gynharach eleni.

Mae llwyddiant y fenter wedi gweld cwmni Sony yn cynnig ei ffatri ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr i gynhyrchu'r cyfrifiadur bach.

Bydd y cytundeb yn golygu adeiladu 300,000 o'r byrddau cyfrifiadurol, gan greu 30 i swyddi ychwanegol ar y safle.

Bydd Sony'n adeiladu'r cyfrifiaduron ar ran cwmni Premier Farnell, sy'n dosbarthu'r Raspberry Pi i ddyfeiswyr y teclyn, Sefydliad Raspberry Pi.

Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen, Eben Upton: "Mae'n ddiwrnod gwych i ni. Mae hyn wedi bod ar y gweill am tua chwe mis wedi i ni ymweld â safle Sony.

"Mae'n dda gwybod ein bod ni'n dal yn medru gwneud y math yma o beth yn y DU....ac yng Nghymru."

Cafodd y cyfrifiaduron Raspberry Pi cyntaf eu gwerth ym mis Chwefror, ond bu'n rhaid i'r sefydliad osod y gwaith cynhyrchu i China wedi iddyn nhw fethu dod o hyd i ffatri ym Mhrydain oedd yn fodlon gwneud y gwaith.

Ond mae llwyddiant ysgubol y teclyn wedi golygu gwerthiant sy'n ddigon uchel fel ei bod yn gost effeithlon i'w gynhyrchu yn y DU.

"Roedden ni wedi gobeithio gwerthu tua 10,000 yn y flwyddyn gyntaf - hyd yma mae'r gwerthiant yn 400,000. Mae pobl wrth eu bodd gyda'r teclyn," ychwanegodd Mr Upton.

Ffynhonnell y llun, Sony
Disgrifiad o’r llun, Mae'r Raspberry Pi newydd eisoes yn cael eu cynhyrchu ym Mhencoed

Dywedodd Steve Dalton, rheolwr Canolfan Dechnoleg Sony UK ym Mhencoed: "Rydym yma ym Mhencoed ers 20 mlynedd nawr, ac rydym wedi gorfod arallgyfeirio ein gwasanaeth er mwyn sicrhau cynaliadwyedd y ganolfan.

"Drwy weithio gyda chwmnïau dyfeisgar fel Premier Farnell, rydym wedi medru ymestyn ein gwasanaethau cynhyrchu.

"Hefyd mae Sefydliad Raspberry Pi yn rhannu ein gweledigaeth o ddatblygu gwybodaeth pobl ifanc am y diwydiant technoleg.

"Mae sefydliadau fel hyn yn cynorthwyo i greu technolegwyr y dyfodol drwy ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol