Anafiadau i feiciwr modur

Mae beiciwr modur 28 oed wedi cael anafiadau lluosog wedi damwain ffordd ym Mro Morgannwg.

Roedd yn teithio i'r dwyrain ar ei Suzuki ar yr B4265 yn Llanilltud Fawr pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad mewn cylchfan fach.

Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion i'r ddamwain a ddigwyddodd tua 8.20pm nos Fercher.

Roedd y ffordd ar gau am deirawr.

Dylai unrhyw dystion gysylltu â'r heddlu ar 01792 456999 neu 101; neu Daclo'r Taclau ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.