Angladd Jamie Shadrake y milwr a laddwyd yn Afghanistan

Jamie Shadrake Image copyright MOD
Image caption Bu farw Jamie Shadrake ddyddiau wedi ei benblwydd yn 20 oed

Cafodd angladd milwr o Gymru a saethwyd yn farw wrth wasanaethu yn Afghanistan ei gynnal yn Wrecsam.

Roedd y Gwarchodwr Jamie Shadrake, 20 oed, yn aelod o Fataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Grenadier.

Cafodd ei saethu gan wrthryfelwyr yn y fan chwilio lle'r oedd yn gweithio yn Nahr-e Saraj yn nhalaith Helmand ar Awst 17.

Magwyd Mr Shadrake yn ardal Llanharan cyn i'r teulu symud i Wrecsam.

Roedd yr angladd yn un milwrol llawn yn Eglwys San Silyn yn y dref am 1pm.

Cafodd ei saethu dridiau ar ôl ei benblwydd yn 20 oed.

Wrth roi teyrnged iddo wedi ei farwolaeth, fe wnaeth ei bennaeth, yr Is-Gyrnol James Bowder, ei ddisgrifio fel "dyn ifanc eithriadol".

'Mab a brawd cariadus'

"Roedd yn llawn egni a brwdfrydedd, ac yn filwr talentog gyda llawer iawn i'w gynnig i'r fyddin.

"Mae ein gweddïau gyda'i rieni a'i deulu ar yr amser anodd iawn yma. Mae ei farwolaeth yn ergyd fawr i'r bataliwn."

Ychwanegodd sarjant y platŵn, Vandell McLean, ei fod yn filwr a fyddai wedi cael gyrfa lwyddiannus.

Dywedodd ei deulu ei fod yn falch o fod yn filwr a'i fod wedi "marw yn gwneud y gwaith yr oedd yn ei garu".

"Roedd yn fab a brawd cariadus.

"Rydym fel teulu yn falch fod Jamie yn fodlon gwneud ei ddyletswydd drwy helpu pobl Afghanistan.

"Roedd yn goleuo ystafell gyda'i wên, ac fe fydd colled fawr ar ei ôl gan gymaint oedd yn ei garu."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.