Buddugoliaeth i Wrecsam yn eu gweld yn codi yn y tabl

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Daw'r fuddugoliaeth yn erbyn Hyde ddyddiau ar ôl iddyn nhw guro Casnewydd

Wrecsam 2-0 Hyde

Goliau gan Glen Little a Jay Harris roddodd fuddugoliaeth i Wrecsam yn erbyn yr ymwelwyr Hyde.

Mae'r fuddugoliaeth yn gweld tîm Andy Morrell yn codi dau safle i'r pumed yn nhabl Uwchgynghrair y Blue Square.

Dyma eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol a'r ail gartref, wedi iddyn nhw guro Casnewydd ar y Cae Ras ddydd Sadwrn o 2-0.

Llwyddodd Little gyda chic o'r smotyn wedi 78 munud i roi'r Dreigiau ar y blaen ar ôl i Alex Brown droseddu yn erbyn Dean Keates.

Fe wnaeth Wrecsam sicrhau'r fuddugoliaeth gydag ail gôl yn y 90 munud.

Llwyddodd Martin Riley i ganfod Harris oedd yn rhydd yn y cwrt cosbi.

Cic gyda'i droed chwith i waelod y rhwyd oedd hi.

Fe orffennodd yr ymwelwyr gyda 10 dyn ar y cae ar ôl i'r chwaraewr canol cae, Liam Tomsett, gael ei anfon oddi ar y cae ar ôl ail gerdyn melyn.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol