Buddugoliaeth i Airbus a Lido Afan

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llunNot Specified

Roedd 'na bedair gêm yn Uwchgynghrair Cymru nos Fawrth.

Y Bala 0 - 2 Airbus

Ryan Wade gafodd ddwy gôl yr ymwelwyr ym Maes Tegid a hynny yn yr ail hanner. Daeth y gyntaf wedi 58 munud a chwe munud yn ddiweddarach fe lwyddodd i ganfod cefn y rhwyd eto. Cafodd Stuart Jones gerdyn melyn i'r tîm cartref wedi 79 munud. Ond roedd Airbus wedi cael tri cherdyn melyn, Abbott, Kearney a Fields.

Lido Afan 2 - 1 Caerfyrddin

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 37 munud wrth i Kieran Howard sgorio. Ond llwyddodd Caerfyrddin i ddod yn ôl wedi 79 munud wrth i Tim Hicks sgorio. Ond gyda munud o amser ar y cloc yn yr amser am anafiadau fe wnaeth Mark Jones ganfod y rhwyd i sicrhau buddugoliaeth i Lido Afan. Mae hyn yn golygu bod Caerfyrddin wedi methu sicrhau eu lle ar dop y gynghrair.

Y Drenewydd 1 - 1 Port Talbot

Cortez Belle o Bort Talbot gafodd y ddwy gôl ym Mharc Latham. Wedi saith munud llwyddodd gyda chic o'r smotyn a hynny pedwar munud ar ôl cael ei gosbi gyda cherdyn melyn. Ond bum munud cyn diwedd y gêm fe rwydodd i'w rwyd ei hun i sicrhau gêm gyfartal.

Aberystwyth 0 - 0 Bangor

Roedd 'na wyth gôl ddydd Sadwrn yn Stadiwm The Book People ym Mangor rhwng y ddau dîm yma, saith i Fangor ac un i Aberystwyth. Ond wrth i Fangor deithio i Goedlan y Parc nos Fawrth, mae'n debyg eu bod wedi anghofio sut i sgorio gan na welwyd yr un gôl. Doedd hi ddim y noson orau i Fangor wrth i Jamie Brewerton dderbyn cerdyn coch a chael ei anfon oddi ar y cae wedi 83 munud.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol