Pryder rhieni am gyflwr adeilad Ysgol Groeslon

Roedd 50 o rieni a pherthnasau'n protestio y tu allan i Ysgol Gynradd y Groeslon yng Ngwynedd fore Mawrth.
Penderfynodd rhai rhieni fynd â'u plant dim ond at glwyd yr ysgol.
Mae Cyngor Gwynedd wedi gorfod gosod dosbarth dros dro ar y buarth gan fod rhan o'r adeilad yn cael ei hystyried yn beryglus.
Eisoes mae rhiant wedi cysylltu gydag adran addysg y cyngor a dweud bod "sefyllfa annerbyniol" ar ôl i ddau ddosbarth gael eu cau.
'Dros dro'
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod cau'r dosbarthiadau yn "fesur rhag ofn" a bod uned dros dro yn cael ei gosod yno.
Bydd 75 o blant yn gorfod rhannu dau ddosbarth a neuadd.
'Wythnos arall'
"Dwi'n gandryll na wnaethon nhw adael i ni wybod cyn yr wythnos yma," meddai Susanne Bearman, sydd â thri o blant yn yr ysgol.
"Fe hoffwn weld asesiad risg y cyngor ar gyfer diogelu ein plant," ychwanegodd.
Cafodd yr ysgol ei hadeiladu yn y 1960au.
Mae 'na broblemau wedi bod gyda'r tai bach, y brif neuadd, bwcedi yn dal dŵr glaw yn y fynedfa ac fe gondemniwyd y gegin yn 2009.
"Dwi'n siŵr y bydd yr ystafelloedd dros dro yn well na'r adeilad presennol ond fe fyddai'n well gen i gadw'r plant adref am wythnos arall tan y bydd yn cyrraedd."
Fe fydd yr uned dros dro ar gyfer disgyblion blwyddyn 3, 4 a 5.
'Blaenoriaeth'
Dywedodd Eric Jones, Cadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol, y byddai wedi dymuno canfod y broblem yn gynharach er mwyn sicrhau bod yr uned dros dro yn ei lle.
"Fy mlaenoriaeth i yw gwneud yn siŵr eu bod (yr ystafelloedd) yn cyrraedd cyn gynted â phosib ac mai bach iawn fydd yr effaith ar staff a disgyblion," meddai.
"Rhywbeth dros dro yw hyn gan fod rhaid bwrw ymlaen gyda chynllun busnes ar gyfer ysgol ardal newydd."
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, sydd â chyfrifoldeb am adeiladau ysgolion, fod archwiliad o'r adeiladau yn cael eu cynnal yn aml er mwyn sicrhau diogelwch.
Cyllid
Eglurodd bod y penderfyniad wedi ei wneud wedi i'r ymgynghorwyr ddweud bod y dosbarthiadau'n dirywio.
Ychwanegodd Sian Gwenllïan, aelod o gabinet y cyngor a chyfrifoldeb am addysg, fod cyllid ar gyfer ysgol ardal newydd ar gael.
Ond dywedodd fod Llywodraeth Cymru am i'r cyngor gyflwyno cais busnes manwl ar ad-drefnu cyn rhyddhau'r arian.
Fe fydd panel adolygu yn cael ei sefydlu i ystyried hyn yn yr hydref.