Y Seithfed diwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Paralympaidd
- Cyhoeddwyd
Nifer o Gymry yn cystadlu mewn amryw o gampau ar seithfed niwrnod y Gemau Paralympaidd yn Llundain.
Mae BBC Cymru yn dod â'r newyddion diweddara i chi o'r campau.
SEICLO
Mae Mark Colbourne wedi ennill ei drydedd medal yn y Gemau wrth iddo ennill medal arian ar y ffordd yn y ras yn erbyn y cloc C1. Gorffennodd y ras mewn 25 munud 29.37 eiliad. Dim ond 13 eiliad oedd Colbourne y tu ôl i'r enillydd, Michael Teuber o'r Almaen (25 munud 16.43 eiliad).
Doedd 'na ddim cymaint o lwc i Rachel Morris oedd yn cystadlu ar y ffordd yn y ras yn erbyn y cloc H3. Gorffennodd hi'n bumed mewn amser o 36 munud 38.97 eiliad. Sandra Graf o'r Swistir oedd yn fuddugol mewn amser o 33 munud 21.61 eiliad.
ATHLETAU
Wedi ennill medal efydd yn y ras gyfnewid 4x100m ddydd Mawrth, methu wnaeth Jenny McLoughlin i ennill medal arall yn rownd derfynol y ras 200m T37. Roedd hi wedi gorffen yn drydydd yn y rhagras gydag amser o Ond yn y rownd derfynol fe wnaeth hi orffen yn bumed mewn 30.08 eiliad. Johanna Benson o Namibia enillodd y Fedal Aur gydag amser o 29.26 eiliad. Daeth Bethany Woodward o Brydain yn ail (29.65 eiliad) a Maria Seifert o'r Almaen yn drydydd (29.86 eiliad).
PÊL-FOLI EISTEDD
Mae Sam Scott a James Roberts yn aelodau o dîm Prydain. Roedden nhw'n cystadlu ddydd Mercher yn erbyn Iran. Colli wnaethon nhw o 3-0.
BOCCIA
Enillodd Jacob Thomas ei gystadleuaeth yn erbyn Veronica Pamies Morera o Sbaen o 8-1. Fe fydd yn wynebu Grigorios Polychronidis o Wlad Groeg ddydd Iau.
TENIS BWRDD
Falle bydd Paul Karabadark yn cystadlu yn nhîm y dynion a Sara Head yn cystadlu yn nhîm y merched.
SAETHYDDIAETH
Roedd Pippa Britton yn cystadlu yn nhim merched Prydain. Fe wnaethon nhw golli yn erbyn Korea yn rownd y chwarteri o 188-153. Korea aeth ymlaen i ennill y Fedal Aur.
HWYLIO
Cafodd Stephen Thomas ddiwrnod da yn Weymouth wrth barhau i gystadlu yn y ras Sonar yn nhîm Prydain. Ond mae cosb o bedwar pwynt yn golygu bod Thomas a'r ddau arall sydd yn y gwch wedi syrthio o safle'r fedal efydd ar ôl 10 ras i'r pumed safle. Bydd y ras olaf ddydd Iau.
NOFIO
Wedi siom dydd Llun yn ras 200m gymysg (SM6) mae Liz Johnson wedi torri record Baralympaidd wrth ennill ei ragras yn y 100m dull broga (SB6) fore Mercher mewn amser o 1 munud 41.09 eiliad. Yn y rownd derfynol llwyddodd i orffen yn drydydd a sicrhau medal efydd arall i Gymru a Phrydain.
RYGBI CADAIR OLWYN
Dyma oedd diwrnod cyntaf y gystadleuaeth. Mae David Anthony yn nhîm Prydain. Fe wnaethon nhw golli i America o 56-44.
Straeon perthnasol
- 30 Awst 2012
- 27 Awst 2012
- 27 Awst 2012
- 24 Awst 2012
- 10 Gorffennaf 2012