James Harris i adael Morgannwg

James Harris Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Chwaraeodd i Forgannwg am y tro cyntaf yn 2007

Mae clwb criced Morgannwg wedi cyhoeddi y bydd y bowliwr cyflym James Harris yn gadael y sir ar ddiwedd y tymor.

Chwaraeodd i Forgannwg am y tro cyntaf yn 2007 pan oedd yn 16 oed, ac ef yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i gipio 200 o wicedi i'r sir.

Daeth y cyhoeddiad ar ddiwedd y gêm yn erbyn Sir Northants yn Ail Adran y Bencampwriaeth - gêm a orffennodd yn gyfartal.

Dywedodd y clwb mewn datganiad: "Dros yr wythnosau diwethaf mae'r clwb wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda James i drafod ei ddyfodol, ac fe gyflwynodd y clwb gynnig sylweddol i'w gadw yma.

"Yn anffodus ni chafodd y cynnig ei dderbyn ac fe fydd James nawr yn gadael y clwb. Hoffai'r clwb ddiolch i James am ei wasanaeth ers 2007 - mae'n gricedwr talentog ac mae'n gadael gyda dymuniadau gorau'r clwb.

"Nawr bod yr ansicrwydd am ddyfodol James ar ben, gallwn ganolbwyntio ar bwy fydd yn y garfan ar gyfer tymor 2013.

"Eisoes rydym wedi arwyddo cytundebau gyda Huw Waters a John Glover, ac fe fydd y bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan, hefyd yn ymuno â'r sir ar ddechrau'r tymor nesaf."

Yn y gêm ei hun ddydd Gwener roedd gêm gyfartal yn anochel yn dilyn batiad anferth Northants yn eu batiad cyntaf.

Llwyddodd Morgannwg i gael sgôr teilwng iawn hefyd i sicrhau pwynt bonws, a gwneud yn siŵr nad oeddynt am golli'r gêm.

Ym matiad Morgannwg, roedd Stewart Walters yn anlwcus i beidio â chael ei gant wrth gael ei fowlio gan Hall am 98. Sgoriodd Marcus North 57 yn ogystal.

Swydd Northants v Morgannwg (Sgôr terfynol)

Swydd Northants (Batiad cyntaf): 432 am 8

Morgannwg: (Batiad cyntaf):302 am 5(Walters 98, North 57, Allenby 47 h.f.a.)

Gêm gyfartal

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.