Hen felin ger Wrecsam heb gael ei gwerthu mewn ocsiwn

Hen Felin Yr Orsedd ger Wrecsam Image copyright Other
Image caption Cafodd yr Hen Felin ei hadnewyddu yn 2011

Dyw hen felin yn y gogledd ddwyrain ddim wedi cael ei gwerthu mewn ocsiwn ddydd Iau.

Mae'n debyg nad oedd unrhyw gynigion a does dim manylion beth fydd yn digwydd i'r adeilad.

Adeilad cofrestredig Gradd 2 yw'r Orsedd ger Wrecsam a pheintiodd yr artist Turner lun ohoni.

Ym mis Ionawr cafodd y perchennog, Mike Kilgannon, orchymyn i adael ac mae'r adeilad wedi bod yn wag ers hynny.

Nid oedd yn gallu parhau gyda thaliadau morgais.

16eg ganrif

Cyhoeddwyd gorchymyn adfeddiannu ym mis Ionawr ond wedi i Gyngor Wrecsam ymyrryd, fe adawodd y beilïaid ar yr unfed awr ar ddeg.

Dywedodd Mr Kilgannon ei fod yn brin o arian wedi iddo fenthyg er mwyn adnewyddu'r felin y llynedd.

Ychwanegodd ei fod wedi cael gorchymyn i dalu gweddill y morgais i gyd neu adael yr adeilad sy'n dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif.

Ceisiodd Mr Kilgannon werthu'r adeilad ar wefan eBay ac mae'r hen felin yn dal i weithio.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.