Dau wedi marw mewn damwain ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi marw mewn damwain ffordd yn Rhondda Cynon Taf brynhawn Iau.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod y dynion mewn dau gar a fu mewn gwrthdrawiad ar yr A4059 yng Nghwmbach, Aberdâr, tua 3pm.
Bu farw'r ddau ddyn, a oedd mewn ceir gwahanol, yn y fan a'r lle.
Aed â dyn arall i'r ysbyty mewn hofrennydd ac aed â bachgen pum mlwydd oed i'r ysbyty mewn ambiwlans gyda mân anafiadau.
Mae Heddlu'r De yn apelio am dystion.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol