Scott Sinclair yn gadael Abertawe ond Sbaenwr yn ymuno â'r Elyrch
- Cyhoeddwyd

Mae Abertawe wedi cytuno ar ffi drosglwyddo fydd yn gweld Scott Sinclair yn gadael Stadiwm Liberty.
Bydd Sinclair yn symud i glwb Manchester City am £6.2 miliwn, ond mae'r Elyrch eisoes wedi symud i lenwi'r bwlch.
Deellir bod Abertawe wedi cytuno ar ffi i brynu'r asgellwr Pablo Hernendez o glwb Valencia yn Sbaen am £5.5 miliwn.
Roedd Abertawe wedi gwrthod un cynnig o £6.2 miliwn am Sinclair, ond mae'r cynnig newydd yn cynnwys cymalau allai weld y ffi yn codi i £8 miliwn gan ddibynnu ar ei berfformiadau.
Sgoriodd Sinclair 35 o goliau mewn 90 gêm i Abertawe.
Ond roedd eisoes wedi dweud na fyddai'n arwyddo cytundeb newydd pan fyddai ei gytundeb presennol yn dod i ben yn haf 2013.
Byddai hynny'n golygu y gallai adael y clwb heb i Abertawe dderbyn ceiniog amdano.
Newydd-ddyfodiad
Mae Pablo, fel y mae'n cael ei adnabod, wedi sgorio 24 o goliau mewn 154 o gemau i Valencia, a hefyd wedi chwarae i glybiau Getafe a Cadiz yn Sbaen.
Fe sgoriodd mewn gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Manchester United yn Old Trafford ym mis Rhagfyr 2010.
Chwaraeodd yr asgellwr 27 oed bedair gêm i dîm rhyngwladol Sbaen, gan sgorio unwaith mewn buddugoliaeth o 5-1 yn erbyn Awstria.
Ef yw'r trydydd Sbaenwr i ymuno ag Abertawe dros yr haf, gan ddilyn Michu a Chico Flores i'r Liberty.
Mae'r tri wedi chwarae i'r rheolwr Michael Laudrup yn ystod ei gyfnod fel rheolwr yn Sbaen ym Mallorca a Getafe.
Straeon perthnasol
- 28 Awst 2012
- 25 Awst 2012
- 18 Awst 2012