Flintoff yn noddwr ymddiriedolaeth
- Cyhoeddwyd

Cyn gricedwr Lloegr, Andrew Flintoff, fydd noddwr cyntaf Ymddiriedolaeth Tom Maynard.
Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth i godi arian at achosion da yn enw cyn gricedwr Morgannwg a Surrey, Tom Maynard, fu farw ym mis Mehefin.
Roedd Flintoff yn un o'r 29 o bobl seiclodd o Gaerdydd i Lundain cyn gêm goffa Tom Maynard rhwng Morgannwg a Surrey yr wythnos ddiwethaf.
Fe godwyd dros £30,000 ac mae'r ymddiriedolaeth yn helpu cricedwyr difreintiedig a phobl eraill ym maes chwaraeon sydd angen cefnogaeth.
'Anrhydedd'
Dywedodd Flintoff: "Mae'n anrhydedd derbyn cais i gefnogi'r ymddiriedolaeth ac rwyf wrth fy modd yn medru helpu yn fy ffordd fach i.
"Roedd y daith feiciau yn esiampl o bobl yn cydweithio ar gyfer achos da ac rwy'n edrych ymlaen at fedru cefnogi Matthew (Maynard - tad Tom) a'r ymddiriedolaeth mewn ffyrdd gwahanol."
Cyn y gêm goffa ar gae'r Oval fe gyflwynodd Matthew Maynard siec o £2,000 i'r rhai cyntaf i elwa ar gronfa'r ymddiriedolaeth, David Lloyd, Matt Dunn a George Edwards.
Mae gan y sefydliad bump o ymddiriedolwyr, Martyn Ryan, Richard Thompson, Mike Fatkin, Jason Ratcliffe a Matthew Maynard.
Fe fydd enwau noddwyr eraill yn cael eu cyhoeddi'n fuan ynghyd â manylion gweithgareddau elusennol eraill sydd wedi eu trefnu y flwyddyn nesaf.
Deellir bod taith feiciau arall wedi ei threfnu i bob un o'r caeau criced fydd yn cynnal gêm brawf ar draws y DU yn 2013.
Straeon perthnasol
- 16 Awst 2012
- 12 Gorffennaf 2012
- 4 Gorffennaf 2012
- 19 Mehefin 2012
- 18 Mehefin 2012