Dod o hyd i ddyn
Cafwyd hyd i ddyn 34 oed oedd wedi bod ar goll yn ardal Pontneddfechan ym Mannau Brycheiniog.
Criw camera BBC Cymru welodd e brynhawn Mawrth.
Roedd Steve Walker yn aelod o dîm oedd yn gwersylla ym Mannau Brycheiniog.
Aeth ar goll bnawn Llun a bu timau achub yn chwilio am dano nos Lun a tan 4am ddydd Mawrth, gan ailddechrau chwilio am 10am.
Fe gafodd ei weld bnawn Mawrth, gan griw camera BBC Cymru.
Roedd Mr Walker, hyfforddwr ffitrwydd, wedi anafu ei goes.
Yn y Bannau bu'n arwain tîm o wersyllwyr o Romford yn Llundain.
Pan aeth y gwersyllwyr ar goll aeth Mr Walker i chwilio am gymorth.
Ond pan na ddychwelodd penderfynodd y gwersyllwyr alw'r gwasaneathau brys am 6.45pm nos Lun
Bu pedwar o dimau achub, 45 o wirfoddolwyr, hofrennydd y llu awyr o Chivenor, Dyfnaint, a chŵn bod yn chwilio'r ardal.
Yn ôl y timau achub, roedd yr amgylchiadau yn rhai anodd iawn.