Braintree 1-2 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Braintree 1-2 Casnewydd
Mae dechrau da Casnewydd i'r tymor yn parhau gyda buddugoliaeth arall - yn erbyn Braintree y tro hwn.
Roedd hon yn gêm go anodd i'r alltudion ar daith i Braintree, ac yn wir y tîm cartref aeth ar y blaen.
Wedi hanner cyntaf di-sgôr, fe gafodd Brad Quinton y gôl hollbwysig i'w rhoi ar y blaen wedi 53 munud.
Chwarter awr barodd y fantais - yna wedi 69 munud, Max Porter oedd wrth law i unioni'r sgôr.
Efallai bod Ismail Yakubu yn ffodus i fod ar y cae - fe gafodd gerdyn melyn yn yr hanner cyntaf, ac ambell drosedd arall yn ystod y gêm.
Ond fydd neb o Gasnewydd yn cwyno yn sicr gan mai Yakubu gafodd y gôl wedi 84 munud a sicrhaodd driphwynt arall i Gasnewydd.
Dechrau perffaith i'r tymor gyda phedair buddugoliaeth mewn pedair gêm, a tîm Justin Edinburgh sy'n aros ar y brig.
Straeon perthnasol
- 11 Awst 2012
- 11 Awst 2012