Croeso anferth i'r bencampwraig Jade Jones

Jade Jones
Image caption Jade Jones oedd yr ieuengaf yn nhîm Prydain i ennill medal aur

Bu Jade Jones yn teithio tre'r Fflint mewn bws agored ddydd Sadwrn i ddathlu dychwelyd adre ar ôl ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd yn Llundain 2012.

Y ferch 19 oed oedd yr ieuengaf yn nhîm Prydain i ennill medal aur yn taekwondo.

Cafwyd derbyniad arbennig iddi yn Neuadd y Dref y Fflint, ac fe aeth ar falconi'r neuadd i gyfarch y dorf cyn mynd ar y bws chwarter awr yn ddiweddarach.

Gorffennodd yr orymdaith yng ngorsaf bad achub y dref am 7:50pm lle yr oedd tân gwyllt a cherddoriaeth.

Dywedodd maeres y Fflint, Vicky Perfect: "Mae Cyngor Tre'r Fflint wedi ei chefnogi ar hyd y daith, ac rydym wrth ein bodd i fedru ei hanrhydeddu gyda'r derbyniad yma."

Daeth Jade adre yr wythnos diwethaf i weld cannoedd o bobl y tu allan i gartref ei mam.

Bydd Canolfan Hamdden y dref yn cael ei henwi ar ôl Jade fel cydnabyddiaeth o'i buddugoliaeth yn Llundain 2012.

Straeon perthnasol