Arddangos pramiau mewn sioe

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun,
Bydd hen bramiau, fel yr un yma sydd yn dyddio o 1890, yn cael eu harddangos ar y cyd gyda hen gerbydau yn Sioe Orllwyn Teifi ar 26 - 27 Awst.
Disgrifiad o’r llun,
Bydd pramiau'n dyddio o 1860 i'r 1960au i'w gweld yn y sioe.
Disgrifiad o’r llun,
Un o'r casglwyr fydd yn arddangos yw Sian James sydd â chasgliad mawr o bramiau o wahanol fathau.
Disgrifiad o’r llun,
Yn ei chasgliad mae pram o'r un fath â'r un cafodd hi a'i brawd eu cludo ynddo.
Disgrifiad o’r llun,
Mae casglwyr yn dweud bod pramiau'n ran mawr o'n hanes cymdeithasol.
Disgrifiad o’r llun,
Mae gan y pram yma, sydd yn dyddio o 1912, ffrâm wedi ei wneud o bren.
Disgrifiad o’r llun,
Wedi tua 1965, a'r cynydd yn nefnydd ceir, daeth oes aur y pram i ben.
Disgrifiad o’r llun,
Cynhelir Sioe Orllwyn Teifi ar faes Sioe'r Siroedd Unedig, Caerfyrddin, o 26 - 27 Awst.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol