Cau traeth Llangrannog dros dro
- Cyhoeddwyd

Bydd traeth Llangrannog ar gau am 12 wythnos wrth i Ddŵr Cymru wella system dŵr gwastraff y pentref.
Mae'r gwaith, fydd yn dechrau ar Hydref 1, yn golygu newid 200 metr o bibellau sydd wedi eu claddu ar draws y traeth ac allan i mewn i'r môr.
Bydd maes parcio'r traeth hefyd ar gau am y cyfnod gan y bydd ei angen er mwyn storio deunyddiau a chyfarpar.
Dywedodd Martin Kilroy, rheolwr cyflawni cyfalaf Dŵr Cymru eu bod "yn sylweddoli y bydd y gwaith hwn yn achosi anhwylustod, ond 'rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod yna cyn lleied o darfu â phosibl".
"'Rydym yn sicrhau pobl leol y byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gwblhau'r prosiect mor gyflym â phosibl."
Fe fydd y pibellau newydd yn cludo elifiant wedi'i drin ymhell i ffwrdd o'r traeth
"Mae hwn yn brosiect pwysig er mwyn sicrhau bod y system dŵr gwastraff yn Llangrannog yn gweithio'n effeithiol a gyda'r effaith leiaf posibl ar yr amgylchedd.
"Fe fydd y dŵr gwastraff 'rydym yn ei ollwng yn parhau i fodloni'r holl safonau ansawdd dŵr angenrheidiol."
Straeon perthnasol
- 15 Mai 2006
- 12 Mai 2006