Llosgydd £800m i Barc Diwydiannol yng Nglannau Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd
Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy sydd wedi cael ei ddewis ar gyfer lleoliad llosgydd ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu o bob rhan o ogledd Cymru.
Mae disgwyl i'r llosgydd fod yn weithredol erbyn 2017 mewn prosiect gwrth £800 miliwn.
Fe fydd pum sir yn cludo eu gwastraff i'r llosgydd.
Mae'r bwriad eisoes wedi arwain at wrthwynebiad lleol.
Dydd Mercher dywedodd arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton, eu bod yn dal "â phryderon" am y cynlluniau ond nad oedd modd gwneud dim am y peth.
Budd i'r gymuned
"Fe wnaeth Cyngor Sir y Fflint, gyda'r pedwar cyngor arall sy'n rhan o'r bartneriaeth, gytuno i'r broses i sefydlu canolfan rhanbarthol i drin gwastraff o gartrefi.
"Dydi fy addewid i'r cyhoedd ddim wedi newid, dwi'n parhau i fod yn ansicr am y cynlluniau ar effaith posib ar iechyd.
"Mae angen sicrwydd llawn dros y dechnoleg, sut y bydd yr allyriadau yn cael eu rheoli.
"Byddwn hefyd yn disgwyl i'r mwyafrif o wastraff gael ei gludo ar y cledrau yn hytrach na'r ffyrdd ac fe fyddwn yn ymgyrchu i sicrhau bod y gymuned yn elwa o'r cynllun."
Dywedodd y byddai mynd yn groes i'r penderfyniad a wnaed cyn yr etholiadau lleol ym mis Mai yn taro'rr cyngor yn ariannol, ond ei fod yn rhoi'r flaenoriaeth ar iechyd y cyhoedd cyn y bydd unrhyw benderfyniadau pellach yn cael eu gwneud.
Mae'r cynllun yn delio gyda gwastraff a chynghorau Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych yn ogystal â Sir y Fflint.
Mae'r safle ger gwaith melin bapur Shotton.
Daw'r gwrthwynebiad gan drigolion Shotton a Chei Conna yn ogystal ag ardaloedd eraill o Lannau Dyfrdwy a dros y dŵr yng Nghilgwri.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £142 miliwn tuag at y cynllun.
Mae 'na amcangyfrif mai £650 miliwn yw gwerth y y cytundeb 25 mlynedd i adeiladu a gweithredu'r llosgydd.
Mae 'na ddau gwmni ar y rhestr fer ar gyfer y cytundeb.
Fe fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- 28 Chwefror 2012
- 5 Awst 2011
- 28 Mehefin 2011