Gŵyl fwyd yn tyfu wrth ddenu busnesau newydd
- Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr Gŵyl Fwyd Cymru ym Mhowys yn dweud bod yr ŵyl yn "cynnig gobaith i'r diwydiant bwyd yn y canolbarth".
Mewn cyfnod economaidd ansicr maen nhw'n falch bod 115 o stondinau wedi trefnu i arddangos a gwerthu bwydydd.
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal yng ngerddi Neuadd Glansevern, Aberiw, dros y penwythnos.
Dywedodd y trefnwyr eu bod yn falch hefyd bod 30% o'r stondinwyr yn fusnesau newydd.
Dywedodd cadeirydd Gŵyl Fwyd Cymru, Bernard Harris, bod hyn yn dystiolaeth bod y diwydiant bwyd yng nghanolbarth Cymru yn ymladd yn erbyn y sefyllfa economaidd.
"Rydym yn falch iawn fod yr ŵyl yn cynnig gobaith i'r diwydiant bwyd yn y canolbarth," meddai.
Cynnyrch lleol
"Mae digwyddiadau fel yr ŵyl mor bwysig mewn ardal wledig am eu bod yn cynnig llwyfan i gynhyrchwyr ddangos eu cynnyrch yn ogystal â denu miloedd o ymwelwyr i'r ardal fendigedig yma.
"Mae gan Sir Drefaldwyn enw da am fwyd a diod ac mae'r Ŵyl am ddathlu'r traddodiad.
"Mae cymaint o fanteision o brynu cynnyrch lleol; lleihau nifer y milltiroedd bwyd; y wybodaeth fod y bwyd o'r ansawdd uchaf a hefyd y gefnogaeth mae hyn yn ei roi i'r economi leol," ychwanegodd.
Oherwydd poblogrwydd yr ŵyl, mae adran newydd eleni i arddangos bywyd gwledig.
Cafodd yr ŵyl ei sefydlu yn 2005.
"Rydym yn ymfalchïo yn y modd mae'r ŵyl wedi datblygu i fod yn un o'r goreuon yng Nghymru," eglurodd Jenny Thomas, o Neuadd Glansevern.
Y llynedd aeth dros 6000 i'r ŵyl, ac mae'r trefnwyr yn disgwyl mwy eleni.
Mae 'na amryw o weithgareddau ac arddangosfeydd coginio yn ogystal â chyfle i brynu danteithion.
Straeon perthnasol
- 3 Medi 2011